Metal, wood and archaeological collections in museums in Wales | Metel, pren ac archeolegol mewn amgueddfeydd yng Nghymru
Submitted by Marina Herriges on 13 Dec 2024
With generous support from Art Fund we are seeking to improve the understanding of metal, wood and archaeological collections in museums in Wales. We are offering the following three courses for staff and volunteers:
Beginners’ Guide to Archaeological Collections in Museums – 27 January, 3 & 10 February, 2-3pm, with an extra hour in the final session for any questions
This course will be held over three sessions, and will cover:
- Introduction to Archaeological Collections
- Materials identification and care
- Storage
- Supporting access to collections
Introduction to the Care and Identification of Metal Collections - 12 February, 10am – 12pm
This webinar is an introduction to metals for the non-specialist and will cover:
- What metals are - origin and manufacture
- Basic identification of the most common types found in collections
- Some common problems we tend to find in collections
- How to best look after metal objects.
Introduction to the Care and Identification of Wood Collections - 26 February, 10am – 12pm
This course will look at simple techniques to help you identify different types of wood in your collections. It will also cover general care of wooden collections, and common risks to wooden collections. You are encouraged to bring an object with you to help you look in more detail at the structure and morphology of your wooden object.
Attendees to each session will receive a helpful toolkit on identifying and caring for their collections.
All courses will be held online (through Teams or Zoom), and are free to staff and volunteers working in local museums (Accredited and Working Towards Accreditation).
If you would like to attend, please complete the attached form and send it to mal.training@gov.wales
The number of places on this course are restricted to two per organisation. We will be happy to add people to a waitlist in case spaces become available.
Gyda chefnogaeth hael gan y Gronfa Gelf, rydym yn ceisio gwella dealltwriaeth o gasgliadau metel, pren ac archeolegol mewn amgueddfeydd yng Nghymru. Rydym yn cynnig y tri chwrs canlynol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr:
Canllaw i Ddechreuwyr ar Gasgliadau Archaeolegol mewn Amgueddfeydd – 27 Ionawr, 3 a 10 Chwefror, 2-3pm, gydag awr ychwanegol yn y sesiwn olaf ar gyfer unrhyw gwestiynau
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal dros dair sesiwn, a bydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Gasgliadau Archaeolegol
- Adnabod deunyddiau a gofal
- Storio
- Cefnogi mynediad i gasgliadau
Cyflwyniad i Ofalu ac Adnabod Casgliadau Metel - 12 Chwefror, 10am – 12pm
Mae'r sesiwn hon yn gyflwyniad i fetelau i'r rhai nad ydynt yn arbenigwyr, a bydd yn cynnwys:
- Beth yw metelau - tarddiad a gweithgynhyrchu
- Adnabod sylfaenol y mathau mwyaf cyffredin a geir mewn casgliadau
- Rhai problemau cyffredin yr ydym yn tueddu i'w canfod mewn casgliadau
- Sut i edrych ar ôl gwrthrychau metel orau.
Cyflwyniad i Ofalu ac Adnabod Casgliadau Coed - 26 Chwefror, 10am – 12pm
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar dechnegau syml i'ch helpu i adnabod gwahanol fathau o goed yn eich casgliadau. Bydd hefyd yn ymdrin â gofal cyffredinol casgliadau pren, a risgiau cyffredin i gasgliadau pren. Fe'ch anogir i ddod â gwrthrych gyda chi i'ch helpu i edrych yn fanylach ar strwythur a morffoleg eich gwrthrych pren.
Bydd mynychwyr pob sesiwn yn derbyn pecyn defnyddiol i helpu nodi a gofalu am eu casgliadau.
Cynhelir pob cwrs ar-lein (trwy Teams neu Zoom), ac mae nhw’n rhad ac am ddim i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn amgueddfeydd lleol (Achrededig a Gweithio tuag at Achrediad).
Os hoffech fynychu’r cwrs, cwblhewch y ffurflen atodedig a’i dychwelyd at mal.training@llyw.cymru